Alan WynROBERTSCyn Ddirprwy Brifathro Ysgol Uwchradd Maes Garmon ac Ysgol Uwchradd Bodedern
Bu farw'n dawel yn ei gartref yng nghwmni cariadus ei deulu yn 93 oed. Gŵr hynaws Ann, tad a thad yng nghyfraith amhrisiadwy Eirian a Lloyd, Eilir a Marian. Taid a hen daid balch Elin ac Ieuan, Rhodri, Owain ac Elen, Guto a Kasey ac Iago Huw. Brawd cefnogol Helen a'r diweddar Tecwyn. Cefnder agos Margaret a ffrind da i Margaret a'i theulu, Bryn Trygarn ac Angylion Plas Garnedd. Yn unol â dymuniad Alan erioed angladd hollol breifat. A hithau'n Ŵyl y Baban Iesu os dymunir derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at Tŷ Gobaith, Dyffryn Conwy drwy law'r Ymgymerwyr Gwenan Roberts o W. O. a M. Williams, Rose & Thistle, Llanedwen, LL61 6PX. Ffôn 01248 430312.
Keep me informed of updates